Fy enw i yw Ian, Ian Sturrock
Dwi wedi byw yma am amser mor hir, mae’n anodd cofio pam y des i yma!
Dwi wedi symud yn raddol at dyfu coed – coed ffrwythau.
Felly roeddwn i fel Mr Organig yn ar yr ardal hon, amser maith yn ôl, cyn i unrhyw un fod â diddordeb.
Ac ers hynny, dwi wedi dod ar draws Afal Ynys Enlli, tua 15 neu 20 blynedd yn ôl, a dechreuodd hynny don newydd o ddiddordeb mewn amrywiaethau Cymreig, a nawr dyma beth dwi’n ei wneud, dyma yw fy maes arbenigol.
Felly mae pob un o’r coed yma, yn amrywiaeth o goed ffrwythau Cymreig.
A draw yn fan hyn, rydym yn dal i ddisgwyl cael gwybod beth yw amrywiaethau’r rhain…
Mae honno draw yn fan acw yn dod o’r Bala, Llyn Tegid, mae honno newydd gael ei phrofi’n enetig, ac mai’n unigryw, felly byddaf yn dechrau tyfu’r afal hwnnw o Lyn Tegid y flwyddyn nesaf.
Ac wedyn draw fan acw, mae un y daeth dynes o hyd iddi yng nghanol y twyni tywod ym Morfa Bychan, Traeth y Graig Ddu.
Mae pobl yn dod â nhw ata i, ac mae’n anodd dweud na, yn tydi?
Dwi wedi treulio tua 20 blynedd yn chwilio am goed afalau prin, ond dydw i ddim wedi dod o hyd i un!
Ond daeth ffrind i mi â’r Afal Ynys Enlli ata i, a sylweddolais ei bod yn unigryw.
Fe wnes i ei hanfon wedyn i’r Casgliad Ffrwythau Cenedlaethol, lle’r oedd arbenigwyr wedi dweud ei fod yn unigryw.
Dim ond un oedd ar Ynys Enlli, felly hon yw’r goden fwyaf prin yn y byd.
A dechreuodd y stori honno gael sylw, sydd wedi fy arwain at hyn i gyd, am fy mhechodau!!
Busnes tymhorol sydd gen i nawr, roeddwn i’n arfer tyfu coed ar gyfer fy nghanolfan arddio allan yn fan acw, ac yn y cae hwnnw, a’r tu cefn, coed tair blwydd oed, treuliais lot o amser yn eu siapio’n ddel.
Nawr, dwi’n anfon y coed allan yn flwydd oed, oherwydd mai busnes ar-lein ydw i bellach yn y bôn.
Mae manteision amlwg i Garddwriaeth Cymru, mae’n dda i gael eu harbenigedd ar eich ochr. Oherwydd, rydych yn cyfarfod pobl, ac yn amlwg mae’n broblem eu bod yn byw mewn ardaloedd gwahanol o Gymru.
Dwi wedi cael lot o help gan Brifysgol Aberystwyth, sydd, wrth gwrs, os ydych yn edrych ar fap i’w weld yn agos, ond mae’n cymryd sawl awr i gyrraedd yno.
Ond oherwydd Garddwriaeth Cymru, dwi wedi sefydlu cysylltiad cryf gyda’r adran geneteg yno, ac mae’r coed yma sydd y tu ôl i mi nawr, mae pob un yn cael eu profi’n enetig ac yn cael proffil DNA ym Mhrifysgol Aberystwyth a nawr, dwi’n dechrau eu tyfu nhw.
Mae’n dda i fod â chysylltiadau, rhai ohonynt dwi wedi eu cael drwy Garddwriaeth Cymru, oherwydd dwi’n tyfu coed arbenigol.
Dwi ond yn mynd i werthu fy nghoed yng Nghymru, oherwydd eu bod yn goed Cymreig sydd yn ffynnu yn amgylchedd Cymru.
Ac mae’n dda i mi hefyd, hyd yn oed os nad tyfwyr ffrwythau eraill yn yr ardal, ewch i dyfwyr Cymreig eraill oherwydd, er enghraifft – compost yw compost!
Dydw i ddim yn gwybod unrhyw beth am y pwnc, dim ond Biolegydd Morol ydw i, beth ydw i’n ei wybod am gompost?
Beth ydw i’n ei wybod am glefydau?
Beth ydw i’n ei wybod am, lle ydw i’n prynu fy labeli? Wn i ddim?
Beth ydw i’n ei wybod am ddyfrhau?
Dydyn nhw ddim yn bethau sydd yn benodol i dyfu ffrwythau, maen nhw’n bethau llawer iawn mwy cyffredin.
Felly, gyda Garddwriaeth Cymru, gallwch chi wneud y cysylltiadau hyn i gysylltu ag eraill, oherwydd Garddwriaeth yw Garddwriaeth.
Mae’r pethau sy’n dod o dyfu eich cyfrwng eich hun, y pethau hynny sy’n unigryw, ond mae popeth arall, y strwythurau, y compost, y labelu, help gyda’ch gwerthiant ar-lein, pethau cyfrifiadurol a phopeth arall.
Dwi’n dipyn o hen ddiawl a does gen i ddim amynedd gyda’r Cyfryngau Cymdeithasol. Dwi wir yn ei gasáu, ond yn lwcus i mi, maen nhw wedi bod yn gwneud hynny ar fy rhan i fel petai.
Felly dydw i ddim angen ceisio perswadio fy meibion diog i fynd ar gyfryngau cymdeithasol a gwneud rhywbeth mwy defnyddiol na bod ar Tinder.
Mae’r holl bethau yn bethau rydych ond yn eu dysgu wrth eistedd gydag eraill a sgwrsio.
Dwi’n aelod o glwstwr Perllannau Treftadaeth Genedlaethol Cymru, felly pobl sydd â diddordeb mewn hen goed prin, sydd bron wedi diflannu.
Ac rydym i gyd yn rhannu ein gwybodaeth.
Does neb…
Beth ydy hwn yn fan yma?
Perth-hir – hen goeden seidr Cymreig.
Does neb yn gwybod unrhyw beth amdani, felly os oes gennych chi bobl eraill yn eich clwstwr, gallwch wella eich gwybodaeth.
Byddaf yn dysgu sut mae hi o gwmpas fan hyn, ond mae Cymru’n wlad fawr!
Mae pobl yn aml yn gofyn, maen nhw eisiau adborth, eisiau ticio bocsys.
Ond y peth yw, yn y byd go iawn, does dim bocsys i’w ticio!
Yn amlwg, rydym yn cael yr help rydym yn ei gael, yr holl gysylltiadau, maen nhw’n helpu, ond mae popeth yn hirdymor.
Rydym yn gweithio’n hirdymor, mae’r coed yma’n tyfu’n hirdymor, mae’r prosiectau’n rhai tymor byr, felly mae gwrthdaro yn fan yno.
Dylai’r prosiectau cael eu cynnal am gyhyd mae’r coed yn tyfu!
Dyna sut ydym yn cael gwybodaeth go iawn.
Dyna sut ydym yn cael budd.
Dydw i ddim yn medru dweud, er enghraifft, yn ein hachos ni, faint yn fwy o goed y byddaf yn eu gwerthu oherwydd Garddwriaeth Cymru.
Dwi’n gwybod fy mod wedi gwerthu rhai, dwi wedi gwerth 2 heddiw.
Dwi’n gwybod fy mod wedi gwerthu rhai, ond alla i fyth eu cyfri.
A hefyd, wrth gwrs, tyfwr ydw i, nid dyn busnes.
Felly, dydw i ddim eisiau treulio fy nosweithiau yn eistedd yno ac yn edrych ar fy ystadegau.
Maen nhw’n gwbl ddiystyr.
Mae’r graffiau yn mynd i fyny ac i lawr!
Dwi eisiau tyfu pethau, dydw i ddim eisiau bod yn ticio bocsys rhywun a dweud ‘heddiw, dwi wedi gwerthu dwy goeden oherwydd Garddwriaeth Cymru’.