Astudiaeth Achos – Be You to Blossom

Mae Angela Done, cyn-athrawes ysgol, yn danbaid dros ymwybyddiaeth ofalgar a llesiant plant yn ei chymuned leol. 

Mewn nifer o ysgolion yn Sir y Fflint (Ysgol Estyn, Ysgol Gynradd Abermorddu, Ysgol Derwen ac Ysgol Ioan Fedyddiwr), mae Angela yn gweithio’n galed i greu amgylchedd diogel i blant 3-11 oed er mwyn iddynt allu dysgu, meithrin a deall eu galluoedd. Un ffordd a roddir ar waith gan Angela i gyflawni hyn yw defnyddio’i Gardd Ymwybyddiaeth Ofalgar yn Ysgol Estyn, Yr Hob, Sir y Fflint, Cymru. Mae Gardd arall ar y gweill dan arweiniad disgyblion Blwyddyn 5/6 yn Ysgol Ioan Fedyddiwr, Penymynydd, Sir y Fflint, Cymru, ac mae rhagor o ddatblygiadau yn yr arfaeth mewn ysgolion eraill ar gyfer y flwyddyn nesaf. 

 Mae plant o bob oedran cynradd wedi elwa ar raglen Angela, yn arbennig felly yr Ardd Ymwybyddiaeth Ofalgar y dechreuwyd ei chreu yn Ysgol Estyn ddeunaw mis yn ôl. 

Yn yr Ardd Ymwybyddiaeth Ofalgar, mae’r plant wedi tyfu perlysiau, gardd synhwyraidd, Cylch Blodau Haul a phlanhigion neu flodau eraill a roddwyd. Mae’r plant yn treulio amser yma yn gofalu am yr ardd, yn chwynnu, yn plannu, yn dyfrio a hefyd yn dysgu am dyfu a thrin y lle. Yn aml, mae gwirfoddolwyr fel rhieni, garddwyr lleol, neu hyd yn oed athrawon sydd wedi ymddeol, yn ymuno â’r tasgau i rannu eu gwybodaeth gyda’r plant.

Yn ôl Gareth Jones, Pennaeth Ysgol Estyn: “Dyma brosiect gwych, a bydd yn parhau i esblygu.” Mae Gareth yn cefnogi’r gwaith a wneir gan Angela er budd y plant. Dywedodd, “Ar ôl y pandemig, gan fod y rhan fwyaf o’r plant wedi treulio llawer o’u hamser dan do, mae’n gyfle gwych i ddenu’r plant allan i’r awyr agored.”
Nid planhigion, blodau a pherlysiau yn unig a welir yn yr Ardd Ymwybyddiaeth Ofalgar. Mae Angela yn defnyddio eitemau wedi’u hadfer, fel teiars, paledi, a hyd yn oed hen gwch i ennyn diddordeb y plant. Yn ôl Gareth Jones, “Mae’r plant wedi rhagori. Mae rhai plant nad oedden nhw’n arweinwyr amlwg yn ein tyb ni wedi gafael go iawn yn yr awenau, felly maen nhw wedi meithrin eu sgiliau yn y fan honno.”

Bydd Angela wastad yn annog y plant i esgor ar syniadau arloesol ar gyfer eitemau sydd wedi’u hadfer neu eitemau a roddir at yr achos. Meddai: “Prosiectllais y disgyblionyw hwn a chaiff ei arwain gan y plant.” Mae Angela wedi defnyddio eitemau a roddwyd ac mae hi’n hyrwyddo’r arfer o adfer eitemau diangen mewn ymdrech i brofi i’r plant bod modd adfer unrhyw beth. Yn ôl Angela, “Rydyn ni wedi gallu adfer pethau, rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio gydag eitemau sydd wedi’u hadfer a rhoi pwrpas gwahanol i bethau, mae hyn yn rhoi ymdeimlad o berchnogaeth i’r plant dros yr hyn maen nhw’n ei greu.”

 

Mae Angela yn defnyddioDafnaui helpu plant rhwng y Blynyddoedd Cynnar a Blwyddyn 4 a thu hwnt i greu euhunangorau a hapusaf! Mae’r Rhaglen Dafnau Lliw yn ystyried gwahanol agweddau ar feddylfryd twf ac ymwybyddiaeth ofalgar, e.e. Diolchgarwch, Caredigrwydd, Gweledigaeth, Myfyrio, DatganiadauPŵer Porffor’, a llawer mwy. Caiff y dafnau hyn eu hymgorffori yn yr ardd awyr agored er mwyn atgyfnerthu’r pethau a ddysgir gan y plant yn yr ystafell ddosbarth a chynnig ffordd i’r plant archwilio’u hemosiynau. 

 

Mae Gareth Jones yn sôn am y ffordd y mae’r Dafnau wedi helpu plant Ysgol Estyn, “O ran gwytnwch, pan maen nhw wedi wynebu problem yn yr ardd a phan maen nhw wedi gorfod dod o hyd i ffyrdd o ddelio â’r broblem honno. Yn emosiynol, yn enwedig yn ystod amser egwyl ac amser cinio pan maen nhw wedi dewis dod yma i ymbwyllo, neu i ymlacio, neu i edrych yn y drych a mynd trwy eu datganiadau a sylweddoli eu bod yn bwysig, eu bod yn dda am wneud pethau a chymryd pwyll gydag eraill, sy’n help mawr i’w hunan-barchmae hyn yn bwysig iawn, oherwydd heb hunan-barch fe fyddai’r plant yn cael trafferth i gystadlu yn y byd modern a rhagori yn eu dysgu.” 

Byddai Tîm Be You To Blossom yn croesawu rhoddion, gwirfoddolwyr neu gymorth. Os hoffech gymryd rhan yn y prosiectau hyn, neu brosiectau’r dyfodol, cysylltwch ag Angela drwy: 

www.beyoutoblossom.com neu beyoutoblossom@gmail.com 

https://www.youtube.com/watch?v=xZ3bhao0M_M  

https://vimeo.com/688075635