Cyngor Coronafeirws Covid-19: cymorth i fusnesau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth gwerth dros £1.4bn i fusnesau bach er mwyn eu helpu yn ystod cyfnod y coronafeirws.

Bydd busnesau manwerthu, busnesau hamdden a lletygarwch yn cael 100% rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21, ac i’r busnesau hynny sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000 cynigir grant o £25,000.

Mae hefyd yn darparu grant o £10,000 i’r holl fusnesau sy’n gymwys am Ryddhad Ardrethi Busnesau Bach ac sydd â gwerth o £12,000 neu lai.

Nid oes rhaid i fusnesau sy’n gymwys am y cymorth hwn wneud unrhyw gais ar gyfer y cynllun hwn. Bydd yn cael ei weinyddu drwy’r system Ardrethi Busnes. Nid oes angen i chi gysylltu â’ch awdurdod lleol ynglŷn â hyn. Byddwch yn derbyn gwybodaeth maes o law.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU fesurau pellach i gefnogi busnesau ddydd Gwener 20 Mawrth, gan gynnwys cymhorthdal cyflog a fydd yn galluogi cyflogwyr i barhau i dalu hyd at 80% o gostau gweithwyr sydd wedi cael caniatâd i fod yn absennol hyd at uchafswm o £2,500 y mis.

Bydd y dolenni isod yn mynd â chi i wybodaeth bellach ar faterion penodol:

  • Banc Datblygu Cymru – gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael drwy Fanc Datblygu Cymru
  • cymorth gan y Llywodraeth – gwybodaeth am y cymorth a ddarperir gan y Llywodraeth, gan gynnwys Rhyddhad Ardrethi Busnes a Grantiau Busnes
  • canllaw i gyflogwyr a busnesau am covid-19 gan BEIS – Linc i wybodaeth a chanllawiau gan Lywodraeth y DU ar feysydd fel Tâl Salwch Statudol, Cyngor i weithwyr sydd wedi teithio i ardaloedd risg uchel a chyngor ar weithio o gartref.

Er mwyn gohirio lledaeniad Coronafirws, mae’r Llywodraeth wedi cyfarwyddo rhai busnesau a lleoliadau gan gynnwys pob tafarn, bar a bwyty i gau. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am ba fusnesau sydd angen cau ar y wefan ganlynol:

https://www.gov.uk/government/publications/further-businesses-and-premis…

Edrychwch ar ein tudalennau newyddion yma ar gyfer ein herthyglau Coronafirus diweddaraf.

I gael rhagor o ganllawiau ar goronafeirws ewch i wefan:

https://developmentbank.wales/cy

https://businesswales.gov.wales/cy/cymorth-llywodraeth-i-fusnesau

https://www.gov.uk/government/publications/guidance-to-employers-and-businesses-about-covid-19