Datganiad i’r wasg: ‘Roeddem yn awyddus i helpu’ – stori lwyddiant Covid-19 Gorsaf Betrol Rhydymwyn

Mae Gorsaf Betrol Rhydymwyn, Sir y Fflint, yn enghraifft galonogol o sut gall busnes bach gefnogi’r gymuned a thyfu’r busnes ar yr un pryd, hyd yn oed dan amgylchiadau heriol tu hwnt.

Mae prosiect Garddwriaeth Cymru Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi bod yn gweithio gyda Gorsaf Betrol Rhydymwyn ers iddynt ehangu eu siop bob peth y llynedd – maent yn aelodau o Glwstwr Cadwyn Cyflenwi Fer y prosiect. Cawsom gyfle i sgwrsio gyda Gemma’n ddiweddar i ddysgu mwy am sut ddaeth eu staff a’u gwirfoddolwyr at ei gilydd i gefnogi pobl yn y gymuned drwy gludo hanfodion a mwy.

Sut wnaethoch chi addasu eich busnes i wasanaethu’r gymuned?

Mae pedair rhan i Rydymwyn: siop bob peth, gorsaf betrol, MOT a gwasanaethu ceir a llogi faniau. Eglurodd Gemma bod pob rhan o’r busnes wedi gweld effaith y pandemig mewn ffyrdd gwahanol. Ar ddechrau’r cyfnod COVID, roedd y siop yn rhan eithaf newydd o’r busnes. Er mai dim ond ers 18 mis yr oeddent wedi bod yn rhedeg y siop, roedd yn amlwg bod llawer o’r cwsmeriaid ac aelodau’r gymuned leol yn agored i niwed – ac yn ofni dod allan. Addasodd y tîm y siop yn gyflym er mwyn cynnig gwasanaeth cludo i gartrefi a mannau casglu digyswllt. Roedd y gwasanaeth yn werthfawr dros ben i’r gymuned, ac yn cefnogi busnesau lleol eraill ar yr un pryd.

Dywedodd Gemma ‘Rydym wedi cysylltu â llawer mwy o fusnesau lleol; roeddem yn gwneud tipyn o hyn o’r blaen. Nawr er enghraifft, rydym yn gweithio gyda chigydd lleol yn cymryd archebion llawer mwy. Rydym yn derbyn ffrwythau a llysiau pob dydd. Rydym wedi adeiladu perthynas dda gyda chyflenwyr.’

Un rheswm y gwnaeth ymateb Rhydymwyn i’r pandemig argraff mor dda yw gan ei fod wedi mynd y tu hwnt i fod yn siop:

‘Gwnaethom gynnig gwasanaethau i’r gymuned fel mynd i nôl presgripsiynau, ffonio pobl i gael sgwrs a gweld sut hwyliau oedd arnyn nhw, a mynd i’r swyddfa bost ar ran pobl.’

Wrth i’r Nadolig nesáu, gwnaethant addasu eto. Y tro hwn i gynnig gwasanaeth ‘Ticio a Chasglu’ i sicrhau y gall y gymuned siopa’n ddiogel ac yn rhwydd, er mwyn cael y bwyd lleol gorau dros y Nadolig. Y cwbl oedd angen i gwsmeriaid ei wneud oedd llenwi ffurflen ar bapur yn y siop neu dros e-bost, ac yna gwnaethant sicrhau bod popeth yn barod i’r cwsmeriaid ei gasglu.

Welcome to our
CHRISTMAS TICK AND COLLECT service

After a challenging year we want to help make your…

Posted by Rhydymwyn Service Station on Tuesday, November 17, 2020

 

Beth oedd yr effaith economaidd ar y siop bob peth?

Nid yn unig y gwnaeth y siop bob peth lwyddo i gamu i’r adwy a chefnogi ei chymuned leol, mae hefyd wedi gweld hwb ariannol hefyd. Ychwanegodd Gemma:

‘Mae’r siop wedi dod yn fwy poblogaidd… Mae staff wedi dod draw o rannau eraill o’r busnes i helpu. Yn bendant, mae gennym fwy o gwsmeriaid rheolaidd a mwy o bobl yn ein cefnogi. Yn sydyn reit, mae pobl nad oedd yn gwybod ein bod yma wedi clywed mwy amdanom.’

Dwedwch wrthym am yr holl wobrau a gawsoch y llynedd

Cafodd Rhydymwyn ei enwebu’n ‘Bencampwyr Cymunedol’ am gefnogi’r gymuned leol yng nghanol y pandemig, a chyflwynodd Hannah Blythyn AS y wobr iddynt.

Nid yw Gemma’n brolio ynghylch y wobr, ond mae’r angerdd dros fod yn awyddus i helpu yn amlwg. ‘Yn amlwg, dim creu stori oedd pwrpas hyn. Roeddem yn awyddus i helpu. Ro’n i’n poeni’n bersonol am bobl agored i niwed. Mae’r siop yn hwb lleol a chanolog y mae pobl yn ymddiried ynddi.’

Eleni, cawsant eu henwebu hefyd yn y Gwobrau Cynghrair Cefn Gwlad, gan ennill gwobr arall am fod yn Bencampwr Di-blastig.

Beth yw effaith Garddwriaeth Cymru ar eich busnes?

Yn olaf, gofynnom i Gemma am effaith gweithio gyda ni. Dywedodd ‘Mae Garddwriaeth Cymru’n ffantastig. Roedd y ffenestr a grëwyd ar ein cyfer y llynedd yn wych.’ Darllenwch fwy yma.

‘Mae’r cwbl yn ymwneud â chysylltiadau a syniadau gwych. Mae Garddwriaeth Cymru yn rhoi llawer iawn o gyngor a chymorth, ac yn wirioneddol yn helpu pobl i greu cysylltiadau lleol, neu’n rhannu barn ar bwy arall gallem weithio gyda nhw. Rydym bellach yn cynnig mêl, jam a siytni lleol, felly mae’n ymwneud ag adeiladu’r cysylltiadau a’n cefnogi yn hynny o beth.’

Diolch Gemma, a dymuniadau gorau i dîm Gorsaf Betrol Rhydymwyn yn y dyfodol. Daliwch ati.

 

.