Datganiad o breifatrwydd

Mae http://www.horticulturewales.co.uk (y “Wefan”) yn wefan a weithredir gan Garddwriaeth Cymru, un o brosiectau Prifysgol Glyndŵr (“GC“). Pan fyddwch yn dewis dadlennu unrhyw wybodaeth breifat i GC trwy ffurflenni, cofrestriadau neu gymwysiadau ar-lein, mae’n bwysig i ni nad yw eich preifatrwydd yn cael ei gyfaddawdu a’n bod yn ymddwyn mewn modd eglur a rhesymol. Credwn fod diogelu eich gwybodaeth bersonol yn dyngedfennol bwysig.

Mae’r datganiad preifatrwydd yma yn esbonio sut ydym yn defnyddio a diogelu unrhyw wybodaeth bersonol a roddir i ni pan fyddwch yn defnyddio’r Wefan, gan gynnwys pan fyddwch yn cofrestru gyda fforwm GC (y “Fforwm”). Mae defnyddwyr y Wefan hefyd yn atebol i Delerau ac Amodau Defnyddio Gwefan Garddwriaeth Cymru y gellir dod o hyd iddynt yn [Ychwanegwch ddolen]. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datganiad yma neu os nad ydych yn cytuno ag ef, cysylltwch â horticulturewales@glyndwr.ac.uk cyn defnyddio Gwefan GC, gan gynnwys y Fforwm.

Gall y datganiad preifatrwydd yma newid unrhyw adeg a cheidw GC yr hawl i wneud hynny fel y gwêl yn ddoeth. Os bydd y datganiad preifatrwydd yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn rhoi fersiwn wedi’i diweddaru ar [Ychwanegwch ddolen i’r datganiad preifatrwydd ar Wefan GC]. Mae GC yn argymell eich bod yn adolygu’r datganiad yma yn rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod bob amser yn ymwybodol o ba wybodaeth yr ydym yn ei chasglu a’r modd y bydd hyn yn cael ei ddefnyddio gan GC ac unrhyw drydydd parti y mae gofyn i ni ddatgelu gwybodaeth iddynt yn amodol ar delerau’r datganiad.

Mae’r polisi yma mewn grym o [DYDDIAD].

Pa wybodaeth a gesglir gennym?

Beth a wneir gyda’r wybodaeth a gesglir gennym?

Gyda phwy ydym yn rhannu’r wybodaeth yma?

Sut i gael copïau o neu newid y wybodaeth yr ydym wedi ei chasglu

Dioglewch

Dolennau

Cwcis

 

1.       Pa wybodaeth a gesglir gennym?

1.1 Yn gyffredinol, gallwch ddefnyddio’r Wefan heb roi unrhyw wybodaeth i ni. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd gwasanaethau ychwanegol, megis defnyddio Fforwm GC, dim ond ar gael os oes gennym wybodaeth benodol amdanoch.

1.2 Fe allem gasglu’r wybodaeth ganlynol:

·         eich enw a gwybodaeth gyswllt, gan gynnwys cyfeiriad ebost a manylion y cwmni;

·         gwybodaeth am eich diddordebau proffesiynol, demograffeg a’r ffyrdd yr hoffech i ni gysylltu â chi gyda gohebiaeth bellach am ein gwasanaethau.

 

2. Beth a wneir gyda’r wybodaeth a gesglir gennym?

2.1 Bydd pob gwybodaeth a data a gedwir gan GC yn cael ei chadw mewn cronfeydd data sy’n perthyn yn gyfan gwbl i GC ac i neb arall.

2.2 Rydym yn defnyddio’r wybodaeth yma er mwyn rhoi gwell gwasanaeth i chi, er mwyn y rhesymau canlynol yn arbennig:

·         cadw cofnodion mewnol;

·          gwella ein gwasanaethau a chynllunio ar gyfer datblygiadau pellach ar y wefan;

·          monitro defnydd o’r Wefan; neu

·          yn amodol ar Delerau ac Amodau Defnyddio Gwefan GC, anfon ebyst atoch er diben gweinyddu Fforwm GC ar ôl i chi gofrestru.

2.3 Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi trwy ebost, ffôn nei bost os nad ydych wedi cofrestru gyda’r gwasanaeth dewisol priodol.

 

3. Gyda phwy ydym yn rhannu’r wybodaeth yma?

Ni fyddwn yn trosglwyddo, datgelu, gwerthu, dosbarthu na phrydlesu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw un arall os nad ydych wedi rhoi eich caniatâd neu ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith. Mae’n bosibl y gwnawn ryddhau eich gwybodaeth bersonol i’n marchnata uniongyrchol awdurdodedig neu asiantiaid eraill os na fyddwch yn nodi nad ydych eisiau i ni wneud hynny.

 

4. Sut i gael copïau o neu newid y wybodaeth yr ydym wedi ei chasglu

4.1 Fe allech ofyn am fanylion gwybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Codir ffi fechan am hyn. Pe hoffech gopi o’r wybodaeth amdanoch, ysgrifennwch at horticulturewales@glyndwr.ac.uk.

4.2 Os ydych yn credu fod unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, ysgrifennwch neu anfonwch ebost atom cyn gynted â phosibl. Byddwn yn cywiro neu ddiweddaru unrhyw wybodaeth cyn gynted â phosibl.

 

5. Diogelwch

Yr ydym yn ymroddedig i sicrhau fod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal datgeliad neu fynediad heb ei awdurdodi, mae gennym weithdrefnau corfforol, electronig a rheolaethol addas menw grym i ddiogelu’r wybodaeth a gesglir gennym ar-lein.

 

6. Dolennau

Fe allem eich cysylltu â Gwefannau eraill nad ydynt o fewn ein rheolaeth. Unwaith i chi adael y Wefan, ni all GC fod yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a roddir gennych. Dylech gymryd gofal ac edrych ar ddatganiad preifatrwydd y wefan dan sylw.

 

7. Beth yw cwci?

7.1 Pan ewch i’n Gwefan, mae ein serfiwr gwe yn siarad yn uniongyrchol â’n porwr gwe er mwyn arddangos a throsi gwybodaeth yn gywir. Mae hefyd yn tagio’r porwr gyda gwybodaeth am eich ymweliad ac mae’r porwr yn ei dro yn cadw’r wybodaeth yma mewn ffeil testun sylfaenol.

7.2 Unrhyw adeg y dewiswch ddychwelyd i http://www.horticulturewales.co.uk, anfonir y wybodaeth yn ôl i serfiwr GC bob tro y bydd eich porwr yn gofyn am dudalen – ac yn ‘siarad’ gyda’r serfiwr.

7.3 Mae cwcis yn rhoi gwybodaeth gyffredinol bwysig i ni am ymddygiad ein defnyddwyr o fewn y Wefan – pa feysydd maent yn mwynhau ymweld â hwy – pa wasanaethau a ddefnyddir ganddynt yn aml ayb.

7.4 Ni chedwir unrhyw wybodaeth sensitif megis rhifau ffôn neu gyfeiriadau ebost yn y cwcis hyn.

7.5 Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn ddiofyn. Fodd bynnag, os ydych yn anghyfforddus gyda chwcis – fe allai fod yn bosibl i chi osod eich porwr gwe i wrthod pob cwci – neu eich hysbysu pan anfonir cwci i’ch cyfrifiadur – yna gallwch ddewis pa un ai i dderbyn y cwci ai peidio.

7.6 Bydd GC yn diweddaru’r telerau hyn fel y mae polisi cwcis yn newid ac yn addasu. Dylech geisio ymweld â’r dudalen hon o bryd i’w gilydd i adolygu’r telerau sefydlog gan eu bod yn rhwym i chi fel defnyddiwr.

7.7 Dylai gwybodaeth ychwanegol am gwcis fod ar gael trwy ddewislen gymorth porwr eich gwefan neu trwy gysylltu â ni.