Graddio a phecynnu

Horticulture Wales

Graddio yw’r broses o osod cynnyrch mewn categorïau gwahanol, er enghraifft maint, siâp, lliw, rhydd rhag plâu a difrod clefyd. Y bwriad yw sicrhau bod y cynnyrch sy’n mynd i’r farchnad yn bodloni meini prawf rheoliadol a gwerthwr diffiniedig.

Deall gofynion y farchnad

Cam cyntaf graddio yw deall y gofynion sydd angen ichi eu bodloni. Mae safonau sylfaenol wedi’u hysgrifennu yng nghyfraith yr UE. Bydd y rhain yn berthnasol i fusnesau’r DU drwy gydol ‘Cyfnod Pontio’ Brexit, y disgwylir iddo ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2020, ac mae disgwyl i safonau tebyg gael eu hysgrifennu i’r gyfraith wedyn. Mae gan nifer o werthwyr eu safonau eu hunain sy’n uwch na’r gofynion sylfaenol hyn.

Safonau cyfreithiol

Mae’r rhain i’w gweld yn Rheoliad 543/2011 yr UE sy’n nodi dau wahanol fathau o safonau ansawdd.

  1. Mae Safonau Marchnata Cyffredinol (GMS) yn ei wneud yn ofynnol i bob cynnyrch fod yn:
·        Gyfan

·        Mewn cyflwr da (nid wedi pydru na chleisio/ difrodi’n ddrwg)

·        Rhydd rhag lleithder allanol anarferol

·        Ddigonol, ond heb fod yn rhy aeddfed/ datblygedig.

·        Ffres o ran edrychiad

·        Yn benodol rhydd rhag plâu

·        Glân

·        Rhydd rhag aroglau a blasau estron

  1. Mae Safonau marchnata penodol (SMS) yn berthnasol i 10 cnwd unigol, ond dim ond afalau, gellyg, mefus, pupur melys a thomatos sy’n debygol o fod yn berthnasol i dyfwyr Cymru. Fel arfer, mae gofyn i gynhyrchion gael eu graddio i ddau ddosbarth yn ôl ansawdd:
  • Dosbarth I: Cynnyrch o ansawdd da, gan ganiatáu ar gyfer mân ddiffygion fel ardaloedd o ddiffygion croen neu siâp bach.
  • Dosbarth II: Cynnyrch o ansawdd gweddol dda, a all ddangos un neu fwy o ddiffygion (yn dibynnu ar y cynnyrch)

Mae trydydd dosbarth ‘Ychwanegol’ ar gyfer cynnyrch o ansawdd uwch fyth, sy’n gyson reolaidd o ran siâp ac edrychiad, a dim ond yn caniatáu rhai diffygion arwynebol bach iawn. Defnyddir hwn yn llai cyffredin. Mae beth yn union yw ‘mân ddiffygion’ neu ‘ddifrod rhesymol’ yn amrywio o un cnwd i’r llall a chaiff y rhain eu gosod mewn canllawiau cnydau unigol, a cheir dolenni atynt yn yr adran adnoddau.

Mae safonau rheoleiddio eraill ar waith ar gyfer cnydau penodol, er enghraifft tatws hadyd lle mae’r Cynllun Ardystio Tatws Hadyd yn gofyn fod cynnyrch yn cwrdd â lefelau isaf caeth o glefydau allweddol i atal lledaeniad i gnydau bwyta. Mae’r rhain yn cynnwys nematodau codennau tatws, y clwy du a firysau yn y cnwd sy’n tyfu a phydru, madredd, crach a chen yn y cloron

Safonau’r gwerthwr

Mae’r uchod yn safonau cyfreithiol isaf, ond mae gan lawer o werthwyr eu gofynion ychwanegol eu hunain i fodloni disgwyliadau eu sylfaen gwsmeriaid penodol eu hunain. Fel arfer nodir y rhain yn y cytundebau/ contractau gyda chynhyrchwyr, mae’n hanfodol bod y ddwy ochr yn glir iawn ynghylch disgwyliadau. Gall diffyg cyfathrebu achosi colledion sylweddol i dyfwyr a thanseilio perthnasoedd gwaith ar hyd y gadwyn gyflenwi.

Mae tyfwyr sy’n marchnata’n uniongyrchol, er enghraifft drwy farchnadoedd ffermwyr, cynlluniau bocs a phrosiectau amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned, yn cael cyfle i gael deialog uniongyrchol gyda’u cwsmeriaid am beth yw cynnyrch o safon. Er enghraifft, bydd llawer o’r cwsmeriaid hyn yn hapus i dderbyn siapiau od/ cynnyrch o wahanol faint cyn belled â’i fod yn ffres, yn faethlon ac yn flasus.

Dulliau graddio

Graddio llaw/ maes

 

  • Lle mae cnydau’n cael eu cynaeafu â llaw, mae’r rhan fwyaf o’r graddio’n cael ei wneud fel arfer yn yr un modd. Mae hyn yn cynrychioli arbediad mawr o ran amser ac felly arian. Mewn gweithrediadau ar raddfa fwy, mae hyn wedi arwain at ddatblygu rhai rigiau symudol mawr a soffistigedig, fel y dangosir isod ar gyfer seleri a daicon (moli).
Tŷ pecynnu symudol ar gyfer seleri (llun gan David Frost) Graddio daicon yn y cae (Llun gan Davud Frost)

Fodd bynnag, i’r rhan fwyaf o gynhyrchwyr ar raddfa lai, mae pigo yn cael ei wneud â llaw

  • Mewn cnydau/ systemau sy’n cynnwys sawl pas cynaeafu, mae cnydau sy’n rhy fawr neu’n rhy fach, neu nad ydynt wedi aeddfedu digon, yn aros ar y planhigyn tan y pas cynaeafu nesaf. Gellir gadael cnydau nad ydynt yn bodloni’r radd ansawdd ar y cae
  • Mae lleihau trin cnydau’n bwysig ar gyfer pob un ac mae cynaeafu a graddio ar yr un pryd yn helpu i gyflawni hynny. Mae hyn yn arbennig o bwysig i’r rhai sy’n fwyaf tueddol o brofi difrod megis ffrwythau, llysiau deiliog a llysiau ffrwythau anaeddfed (er enghraifft ciwcymbr) sydd fel arfer â chrwyn brau iawn sy’n hawdd eu difrodi. Os oes modd, dylid cynaeafu cynnyrch yn syth i’r cynwysyddion ar gyfer eu cludo/gwerthu (yn aml cratiau plastig neu flychau cardbord yw’r rhain)

 

 

 

  • Mae mynediad at lafur crefftus yn hanfodol ar gyfer graddio llwyddiannus yn y cae. Mae angen i weithwyr gyflawni cyfradd waith benodol er mwyn cynaeafu’r cnwd yn ddarbodus. Mae hyn yn awgrymu bod angen iddynt symud y cnwd yn weddol gyflym, gan wneud penderfyniadau sydyn o ran beth i’w gymryd a beth i’w adael, wrth ofalu peidio â difrodi cynnyrch. Mae hyn yn gofyn am radd uchel o sgiliau a phrofiad

Graddio peiriant

Os yw cnydau’n cael eu cynaeafu gan beiriant, fel arfer cnydau gwraidd fel tatws a moron, caiff y cnwd sy’n cael ei gynaeafu ei gludo’n ôl i’r sied a’i drosglwyddo dros beiriant graddio mecanyddol.

Anatomi peiriant graddio

Mae cloron/ gwreiddiau yn cael eu taflu i mewn i hopran. Mae’r maint a’r soffistigeiddrwydd yn dibynnu ar raddfa’r gweithrediad. Bydd hwn yn dal trelar ar gyfer (tua 6 tunnell), ac mae ganddo wregys a all reoli’r gyfradd y mae’r cloron yn cael eu bwydo iddo. Efallai y bydd gan weithrediadau llai 1 t cloronen sy’n cael ei bwydo trwy ddisgyrchiant.
 

 

 

 

Yna, mae lifft yn eu codi a’u bwydo i gyfres o rwydi meintioli, sef rhwydi metel o feintiau amrywiol. Mae’r rhwydi yn bownsio i fyny ac i lawr sy’n cael gwared ar bridd dros ben ac yn hidlo allan gloron sy’n llai na maint y rhwyd.

 
Mae’r cloron/ gwreiddiau wedyn yn trosglwyddo i fwrdd arolygu lle mae staff graddio yn cael gwared ar unrhyw rai nad ydynt yn bodloni’r manylebau marchnata.

 

Yn olaf, maent yn mynd i’r uned fagio, sydd fel arfer yn cael ei gosod i newid y bagiau’n awtomatig pan fo’n cyrraedd y pwysau cywir.

 

Cyn graddio

  • Wrth gynaeafu’n fecanyddol, efallai y bydd angen arafu yn achlysurol i roi amser i weithwyr gael gwared ar gymaint o bridd a chymaint o bydredd a cherrig â phosibl. Mae hyn yn golygu cost, ond mae’n talu ar ei ganfed drwy wneud graddio’n fwy effeithlon a lleihau difrod i’r cynnyrch a achosir gan gerrig wrth iddo basio dros y peiriant graddio
  • Lleihau’r cwymp rhwng y cynaeafwr a’r trelar/blwch/bin er mwyn atal cleisio. Yn aml, mae systemau torri cwymp a llithrenni llenwi blychau yn cael eu defnyddio i gyflawni hyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y canllaw hwn
  • Yn ddelfrydol, dylai fod modd trosglwyddo’r cynnyrch o’r trelar/biniau/blychau rydych yn eu cynaeafu’n syth i mewn i hopran y peiriant graddio. Os oes angen cam canolraddol, mae hyn yn cynyddu’r risg o ddifrod a cholledion yn sylweddol

Sefydlu’r peiriant graddio

Mae’n bwysig cynnal prawf cyn dechrau graddio; mae’n arbed amser yn y pen draw bob tro, ac yn cymryd llai o amser y staff graddio.

  • Sicrhewch fod y peiriant yn wastad. Os nad ydyw’n wastad, bydd y cynnyrch yn tueddu i lifo tuag at un ochr o’r peiriant, gan gynyddu’r cysylltiad â’r ffrâm ac felly’n cynyddu’r risg o ddifrod. Mae dosbarthiad anwastad hefyd yn ei gwneud yn anodd i’r staff graddio ar y bwrdd archwilio.
  • Sicrhewch fod y gwregysau i gyd yn rhedeg yn llyfn ac yn wastad â’r peiriant. Os yw’r gwregysau hyd yn oed ychydig allan o le, dros amser maent yn symud yn llorweddol (o’r chwith i’r dde) ac yn y pen draw yn mynd yn sownd yn erbyn y ffrâm.
  • Nodwch unrhyw fylchau y gallai cloron/ gwreiddiau llai ddisgyn drwyddynt/ cael eu gwasgu a gwnewch addasiadau priodol
  • Sicrhewch fod eich holl offer pwyso wedi’u gosod yn gywir

Lleihau difrod a cholledion graddolwr

Fel y trafodwyd uchod, mae sawl cam yn gysylltiedig â graddio ac mae risg y bydd pob un yn achosi difrod. Mae nifer o fesurau y gellir eu cymryd i helpu i leihau’r difrod hwnnw

  • Wrth lwytho’r hopran, dylech leihau’r ‘cwymp’ o’r trelar/bin/blwch i lawr yr hopran. Mae’r rhan fwyaf o hoprau wedi’u leinio â rwber i leihau effaith/ difrod
  • Cynnal llif gwastad o gnwd ar y lifft er mwyn sicrhau y caiff ei wahanu oddi wrth malurion cymaint â phosibl, gan sicrhau eich bod yn cael gwared ar bridd a cherrig a allai fod yn niweidiol
  • Nodwch unrhyw ymylon miniog a allai achosi difrod er mwyn cael gwared arnynt. Mae hyn yn cynnwys ymylon pob cludydd, byrddau archwilio, ac unedau bagio. Sicrhewch fod y rhwydi mewn cyflwr da heb unrhyw allwthiadau a all achosi difrod i’r cynnyrch, ac yn wir, rhannau eraill o’r peiriant
  • Lleihau’r cwympiadau i gyd o un rhan o’r peiriant i’r nesaf
  • Os yw’r cynnyrch graddedig yn mynd i flychau yn hytrach na bagiau, dylech leddfu’r cwymp gyda bagiau wedi’u llenwi â gwellt neu debyg.

Mae’r canllaw hwn yn cynnig arweiniad manwl

Pecynnu

Mae pecynnu’n aml wedi integreiddio â graddio. Mae angen ystyried sawl elfen wrth gynllunio eich system becynnu, gan gynnwys:

  • Diogelwch a hylendid bwyd
  • Oes silff
  • Deunydd pecynnu gan gynnwys materion cynaliadwyedd
  • Gofynion statudol ar gyfer labeli

Mae’r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth fanwl ar gyfer mentrau bach

 

 

 

 

Astudiaeth Achos: Fferm Organig Penbryn, Tregaron

Mae Tony Little a Dafydd Owen wedi bod yn tyfu tatws ar gyfer bwyta a hadau ar y fferm ddefaid ucheldir hon ers 6 blynedd. Mae tatws yn cael eu tyfu fel rhan o gylchdro sy’n cynnwys cnydau pys/grawnfwyd a bresych porthiant ar gyfer defaid Mae arwynebedd y tatws sy’n cael eu tyfu yn amrywio yn ôl y cylchdro yn ogystal â maint y cae, ond 1-2 hectar fel arfer. Maent wedi datblygu system cynaeafu a graddio sy’n briodol ar gyfer y raddfa hon o gynhyrchiant. Yn ogystal â thyfu tatws eu hunain, roedden nhw wedi graddio a phacio tatws hadyd a dyfwyd gan rwydwaith o dyfwyr eraill ar gyfer Sarpo Potatoes Ltd.

‘Yn wreiddiol, gwnaethon osod y system raddio ar gyfer tatws hadyd’, meddai Tony, ‘a Sarpo Potatoes Ltd, gyda chefnogaeth Corfforaeth (RDP) a grant datblygu cadwyni cyflenwi yn darparu’r graddolwr. Ein her fwyaf oedd dod o hyd i hopran a oedd yn gydnaws â’r graddolwr ac nad oedd yn cymryd gormod o le, a oedd ei uchelbrisio. Yn y diwedd, fe wnaethant addasu’r system er mwyn medru defnyddio bagiau cario 1t yn lle’r hopran, sydd wedi arbed cryn fuddsoddiad ac wedi gwneud y defnydd gorau o’r lle oedd ar gael’

Mae tatws yn cael eu cynaeafu i mewn i llenwr bag mawr. Mae lifft y cynaeafwr yn cael ei gadw’n isel er mwyn lleihau’r cwymp, ac mae’r llenwr bag wedi ei leinio gyda rwber i leihau cleisio cymaint â phosib. Cawsant eu trosglwyddo wedyn i’r bag cario i’r cae a’u cludo’n ôl i’r buarth.

Mae’r bag yn cael ei ddal dros geg y lifft gyda thriniwr deunyddiau, fel bod y cloron yn diferu allan o’r bag ac yn cael eu cario i fyny’r lifft. ‘Ni fyddai’n addas ar gyfer gweithrediad mwy, gan fod llif a maint y peiriant graddio’n cyfyngu’r mewnbwn. Gyda thatws glân a sych heb chwalfa dylech ddisgwyl tua 2.5 t/HR. Fodd bynnag, os oes llawer o briddellau a cherrig, neu’n waeth fyth, os yw’r tatws yn dod yn wlyb oherwydd amodau cynaeafu sy’n llai na delfrydol, mae hynny’n arafu popeth ac yn rhoi straen sylweddol ar y peiriannau (sydd wedyn yn torri’n aml). Ein profiad ni yw bod hawster graddio yn cael ei bennu gan amodau cynaeafu – yn enwedig y cyswllt lleithder a phresenoldeb/ absenoldeb priddellau trwm.

Mae gosod y peiriant graddio yn gywir yn hanfodol, ac mae treulio amser ar y cychwyn i’w gael yn hollol gywir yn talu ar ei ganfed. Mae’n hanfodol sicrhau bod yr holl ymylon miniog yn cael eu tynnu neu eu meddalu; gall colledion a achosir gan ddifrod graddolwr fod hyd at 15%. Mae angen trin tatws yn ofalus bob amser. ‘Mae trin tatws fel wyau yn ystrydeb i’r diwydiant,’ meddai Tony ‘ond mae’n hollol wir!’

 

Cynaeafu i mewn i lenwyd bagiau mawr Gosod peiriant graddio
Bwydo’r peiriant graddio

Adnoddau

Safonau marchnata ar gyfer ffrwythau a llysiau ffres Yr Asiantaeth Taliadau Gwledig

https://www.gov.uk/guidance/comply-with-marketing-standards-for-fresh-fruit-and-vegetables

Lleihau difrod AHDB Potatoes

https://potatoes.ahdb.org.uk/publications/minimising-damage-guide

 

Pecynnu ar gyfer Garddwriaeth: Canllaw defnyddiol ar gyfer mentrau bach Garddwriaeth Cymru https://horticulturewales.co.uk/wp-content/uploads/2018/11/Packaging-for-Horticulture.pdf