Prosesu gwerth ychwanegol

Ychwanegu gwerth yw trosi nwydd neu nwyddau crai yn gynnyrch wedi’i brosesu drwy ddefnyddio deunyddiau crai, llafur, amser a thechnoleg, y cwbl wedi’u cyfuno mewn modd sy’n sicrhau enillion economaidd uwch. Mae prosesu gwerth ychwanegol bron bob tro yn cynyddu oes silff, ac felly gellir ei ddefnyddio i gadw cynnyrch darfodus dros ben.
Yng nghyd-destun lleihau gwastraff a chynyddu effeithlonrwydd, mae’n adnodd defnyddiol i gael gwerth gan gynnyrch na ellir ei werthu ar y farchnad cynnyrch ffres am resymau penodol, megis:
• Nid yw’n bodloni’r fanyleb faint
• Nid yw’n bodloni safonau cosmetig penodol ond yn berffaith fwytadwy
• Bydd wedi aeddfedu ormod erbyn yr amser mae’n cyrraedd y farchnad cynnyrch ffres
• Heb aeddfedu ond gellir ei ddefnyddio mewn cynnyrch wedi’i brosesu (e.e. siytni tomatos gwyrdd)
Felly, mae’r canllaw hwn yn tybio bod y niferoedd sy’n cael eu prosesu yn weddol isel, ac er bod prosesu yn bwysig, nid dyma yw gweithgarwch craidd y busnes. Mae’n canolbwyntio felly ar systemau costau/niferoedd isel.
Bwriad y canllaw hwn yw bod yn drosolwg cryno o’r prif fathau o brosesu a allai fod yn briodol ar gyfer busnesau bach, ac amlinelliad o’r ddeddfwriaeth diogelwch bwyd allweddol y byddai angen iddynt gydymffurfio â hi. Yng Nghymru, rydym yn ffodus o gael rhwydwaith o sefydliadau a nifer o brosiectau pwrpasol i gefnogi busnesau bwyd, ac mae manylion y rheiny i’w cael yn yr adran ‘cefnogaeth a rhagor o wybodaeth’. Os ydych yn ystyried prosesu ychwanegu gwerth, argymhellir i chi gysylltu â nhw.
Mathau o brosesu gwerth ychwanegol
Mae nifer o brosesau priodol ar gyfer ffrwythau a llysiau. Mae rhai ohonynt, megis arbelydriad, yn gofyn offer/cyfleusterau arbenigol, drud ac felly nid ydynt yn cael eu defnyddio’n eang gan dyfwyr yng Nghymru, ond mae nifer o brosesau eraill yn ddefnyddiol i’r tyfwr ar raddfa fechan – canolig. Mae’r rhain yn cynnwys:
• Canio / Potelu • Piclo
• Dadhydradiad • Eplesiad lacto
• Pasteureiddio • Gwneud Jam/Siytni
Canio / potelu
Mae canio, neu botelu, yn cynnwys coginio bwyd mewn cynhwysyddion y gellir eu selio i’w ddiheintio a dadweithredu ensymau a all arwain at ddirywiad. Yn draddodiadol, mae cynhwysyddion wedi’u gwneud o fetel ond gellir defnyddio unrhyw gynhwysydd y mae modd ei selio. Wrth ei wresogi, caiff yr aer ei wthio o’r can neu jar. Wrth iddo oeri, ffurfir sêl gwactod sy’n atal yr aer rhag mynd yn ôl i’r cynnyrch ac ail-halogi’r bwyd. Mae’r cyflwyniad hwn yn cynnwys rhagor o fanylion.
Y prif bryder yw halogi gyda Clostridiwm botwlinwm, y mae eu sborau yn cynhyrchu gwenwyn marwol. Mae amodau asidig (pH o 4.6 neu is) yn lladd y bacteria. Mae’r math o ganio, felly, yn dibynnu ar asidrwydd eich cynnyrch, felly mesurwch y pH BOB TRO i sicrhau y defnyddir y dull cywir. Lle bynnag sy’n briodol, gall ychwanegu asid, megis finegr, ddod â’r pH i lawr i lefel ddiogel
Mae dulliau dŵr berw a stêm yn ddiogel ar gyfer rhai cynhyrchion garddwriaethol sy’n cael eu canio’n rheolaidd, gan gynnwys tomatos (er bod rhai amrywiaethau yn cael eu magu i fod yn llai asidig), picls, jamiau, jelïau a chyffeithiau ffrwythau eraill. Caiff jariau o fwyd eu gwresogi mewn baddon dŵr neu gabinet stêm tra eu bod wedi’u gorchuddio â dŵr berw neu stêm am o leiaf 10 munud. Ar gyfer pob bwyd sydd â pH dros 4.6, rhaid i chi ddefnyddio canio dan wasgedd, sy’n ei hanfod, yn cynnwys defnyddio sosban bwysedd ar raddfa fwy.
Mae’r cyfnod o amser sydd ei angen yn dibynnu ar ba fath o fwyd sy’n cael ei ganio. Mae pwynt berwi dŵr yn gostwng gydag uchder, felly mae amseroedd trin hefyd yn dibynnu ar ba mor uchel ydych chi. Mae atodiadau’r canllaw hwn yn rhoi manylion.
Pasteureiddio
Mae pasteureiddio yn debyg i ganio, ond nid yw’r cynnyrch wedi’i ddiheintio’n gyfan gwbl. Caiff y bwyd, sydd bron bob tro yn hylif megis sudd ffrwyth neu basata, ei wresogi i dymheredd penodol a’i gadw arno am gyfnod o amser, yn dibynnu ar y cynnyrch. Mae hyn yn ddigon i ladd peth o’r bacteria, ond nid y cwbl, ac i analluogi ensymau penodol sy’n cataleiddio prosesau dirywiad. Golyga hyn bod yr oes silff yn cael ei hymestyn yn sylweddol ond nid yn ddiderfyn. Mantais pasteureiddio dros ganio yw bod y blas a’r gwead yn cael eu heffeithio llai gan y ffurfydd. Mae gwahanol ddulliau gweithredu
• Pasteureiddio swp yw’r dull gweithredu symlaf ac mae’n cynnwys gwresogi i 63oC am oddeutu 30 munud. Gellir gwneud hyn mewn tanc, neu drwy roi poteli/cynhwysyddion y cynnyrch ‘crai’ mewn baddon dŵr. Mae’r dull hwn yn fwyaf addas i nifer o fusnesau ar raddfa fechan.

• Mae pasteureiddio Tymheredd Uchel Iawn (UHT) yn darparu ychydig o wres dwys iawn am gyfnod byr sy’n dod â’r sudd i fyny i oddeutu 120oC ond dim ond am ffracsiwn o eiliad. Caiff hwn ei ddefnyddio’n eang mewn gweithrediadau ar raddfa fwy, ond gall effeithio ar flas y cynnyrch
• Mae pasteureiddio Tymheredd Uchel am Gyfnod Byr (HTST) yn rhywle rhwng pasteureiddio swp ac UHT. Caiff y cynnyrch ei gadw ar 77oC am oddeutu munud ac yna ei oeri’n sydyn i 7 oC. Mae’n bosibl amrywio’r rhain (gellir digolledu tymereddau is gan gyfnodau hirach). Caiff hwn ei ffafrio gan weithrediadau ar raddfa fwy gan y gellir ei wneud fel llif parhaus yn hytrach nag mewn sypiau ac nid yw’n effeithio ar y blas/ansawdd cymaint â UHT.
Mae pasteureiddio UHT a HTST yn gofyn cyfarpar arbenigol a buddsoddiad gweddol uchel.

Astudiaeth Achos: Pasteureiddio sudd Afal yn Nhŷ’n yr Helyg
Wedi’i ysbrydoli gan weithdy dan arweiniad Chris Creed o ADAS a chwrs hyfforddiant dilynol yng Nghanolfan Bwyd Cymru, Horeb, dechreuodd grŵp bach wasgu afalau gan ddefnyddio hen offer gwasgu yr oedd Ian Pardoe, y tyfwr afalau o Sir Henffordd, wedi dod o hyd iddo i dyfwyr Tŷ’n yr Helyg, David a Barbrara Frost, blynyddoedd ynghynt.
Erbyn diwedd ail flwyddyn y grŵp, penderfynasant ei bod yn amser uwchraddio a buddsoddwyd mewn rhesel ac offer gwasgu llieiniau 40 litr. Yna cawsant y felin drydan i grafu (neu felino) y ffrwyth.
Mae’r cynnyrch sudd ar ôl gwasgu yn dibynnu ar yr amrywiaeth o afal a ddefnyddiwyd a’r gwreiddgyff y mae wedi’i dyfu arno. Cymhareb arweiniol yw ennill 1 litr o sudd o bob 2.5 kg o afalau. Yn Nhŷ’n yr Helyg, y cynnyrch gorau sydd wedi’i gyflawni yw cymhareb o 1 litr fesul 1.8 kg o afalau o gyfuniad o amrywiaethau Discovery a Bramley.
Caiff y sudd i gyd ei basteureiddio. Dywed David Frost, “Efallai fod sudd afal yn blasu’n dda yn syth o’r offer gwasgu, ond er mwyn storio’r sudd ac osgoi problemau megis Patulin , mae pasteureiddio yn hanfodol. Gan ddefnyddio’r offer pasteureiddio, rydym yn cadw sudd mewn poteli gwydr 75cl (neu fagiau plastig ar gyfer sudd mewn bocs) ar 75 gradd C am 25 munud. Yr hiraf yw’r cyfnod pasteureiddio, yr hiraf y gellir storio’r sudd, ond eto mae’r blas yn cael ei golli yn unol â hynny. Mae ein dull ni yn golygu bod y sudd yn cadw am hyd at 12 mis ac yn cadw’r blas gorau.”
Mae ymchwil yn dangos bod prosesu ffrwythau yn sudd a’i botelu ar y fferm yn ffordd werthfawr o gynnal incwm y fferm. I nifer o dyfwyr sydd â choed afalau, mae sudd yn fenter â chost isel i’w sefydlu ond gall cynhyrchu fod yn waith llafur caled. Bydd yr enillion gorau yn dod o dwristiaeth ar y fferm, gwerthiannau uniongyrchol ar stondinau marchnad a gwerthiannau cynlluniau bocs.
Rhagor o fanylion yma

Afalau wedi’u crafu
Rhestl ac offer gwasgu llieiniau

Pasteureiddio sudd
Dadhydradu
Dadhydradu yw un o’r dulliau hynaf, ac mewn sawl ffordd, y dull symlaf o gadw bwyd. Caiff y cynnwys lleithder ei leihau i lefel is na lefelau lle nad yw micro-organebau yn gallu goroesi, sydd fel arfer rhwng 10-15%. Mewn cymhariaeth â dulliau cadwraeth eraill yng Nghymru, caiff ei ddefnyddio’n llai eang, ond mae’n ddefnyddiol i rai cynhyrchion megis afalau a madarch.
Y symlaf yw ffyrnau sychu, ac mae’n addas ar gyfer niferoedd bychain ar sail afreolaidd oherwydd: nid yw’n effeithlon o ran defnydd ynni; mae’n anodd cynnal tymheredd sychu isel mewn ffwrn; mae bwydydd fel arfer yn dywyllach, yn fwy brau a llai blasus na bwydydd wedi’u sychu mewn offer dadhydradu.
Mae offer dadhydradu trydanol yn llawer mwy effeithlon o ran ynni ac yn cyflawni cynnyrch o ansawdd well na dulliau eraill. Maent yn ddyluniadau syml, yn cynnwys ffynhonnell wres, system awyriad, a rhestlau y caiff y bwyd ei osod arnynt. Maent yn amrywio o ran pris a soffistigedigrwydd, ond fel arfer mae’n werth buddsoddi ynddynt o ran defnydd llai o ynni a chysondeb y cynnyrch
Mae rhagor o fanylion yn y canllaw hwn
Mae dulliau eraill o ddadhydradu, megis sychu â rhew a systemau ar sail microdonau, ond mae’r rhain yn nodweddion gweithrediadau prosesu arbenigol ar raddfa fwy, ac yn annhebygol o fod yn berthnasol i gynhyrchwyr sy’n dymuno cadw llysiau ffres dros ben
Piclo
Y cyffeithiau mewn piclo yw halen wedi’i gyfuno ag asid, megis asid asetig mewn finegr. Mae’n bosibl cadw ystod eang o lysiau fel hyn, ond mae’r enghreifftiau mwyaf cyffredin yn cynnwys:
• Piclau heli, fel arfer amrywiaethau penodol o giwcymbrau sydd wedi’u tyfu’n benodol at y diben hwn, er y gellir creu rysáit draddodiadol ar gyfer amrywiaethau confensiynol ar raddfa fwy
• Mae piclo pecyn ffres neu broses gyflym yn cynnwys berwi mewn finegr poeth, sbeisys a sesnadau (weithiau mae’r cynnyrch wedi’i drin mewn heli ymlaen llaw fel yr uchod).
• Picls ffrwyth cyfan neu wedi’u sleisio, wedi’u coginio mewn surop melys a sur, yn aml gan ddefnyddio sudd lemwn neu finegr seidr i leihau’r pH
• Siytnis ffrwythau a llysiau, defnyddio ffrwythau wedi’u torri a’u coginio mewn finegr fel rheol gyda siwgr i felysu’r blas a chynyddu gweithred cadw’r finegr
Eplesiad lacto
Mae hwn yn ddull cadw arall yn seiliedig ar asid a chaiff ei ddefnyddio i gynhyrchu cynnyrch megis sauerkraut neu Kimchi. Mae’n dibynnu ar Lactobacilws sy’n gallu goddef halen i drosi’r siwgrau sy’n bresennol mewn ffrwythau neu lysiau yn asid lactig yn anaerobig. Mae hyn yn lleihau’r pH i 4 – 4.5, ac felly nid yw’r organebau sy’n gyfrifol am ddirywiad yn gallu goroesi. Mae hyn yn rhoi oes silff o hyd at 6 mis i gynnyrch. I ddechrau, gellir trochi’r cynnyrch mewn heli neu gellir ychwanegu halwyn crisialog at y cynnyrch crai. Yna caiff ei osod mewn dysglau eplesu, gyda thrap aer sy’n caniatáu’r carbon deuocsid i adael, ond sy’n atal ocsigen rhag mynd i mewn, sy’n caniatáu i organebau aerobig ffynnu ac arwain at ddirywiad bwyd.
Astudiaeth achos: Parc y Dderwen
Mae Parc y Dderwen, a redir gan Lauren Simpson a Phil Moore, yn cynhyrchu cynhyrchion llysiau wedi’u heplesu. Yn ddiweddar, cymeradwywyd eu cais am ddatblygiad Un Blaned ger Clynderwen, ac erbyn blwyddyn nesaf byddant yn tyfu eu cynnyrch eu hunain ac yn defnyddio eu cegin fasnachol eu hunain ar y safle. Yn y cyfamser, mae’r gwaith cynhyrchu wedi’i leoli yn y Gegin Gymunedol yn Hermon, Sir Gaerfyrddin, lle maent yn cynhyrchu oddeutu 200 Kg y mis. Ar hyn o bryd, y prif gynhyrchion yw Sauerkraut a Kimchi, ond mae ganddynt gynlluniau i ehangu eu hystod i gynnwys piclau a sawsiau.
Caiff bresych a chynhwysion llysiau eraill (megis moron, tsilis) eu sleisio gan beiriannau a chaiff bresych wedi’u torri eu haenu â halen i greu’r amodau gorau i’r Lactobacillws. Yna, caiff yr halen a’r bresych eu cymysgu’n drylwyr â’i gilydd am oddeutu 15 munud sy’n helpu i ryddhau’r dŵr a geir ym meinwe’r planhigion. Yna, cânt eu trosglwyddo i dybiau plastig sydd â thrap aer. Wedyn caiff y tybiau eu storio ar dymheredd amgylchol am 3 – 4 wythnos. Ar ôl y cyfnod hwn, cânt eu profi i sicrhau bod y pH oddeutu 4 (ac os nad ydyw, yna cânt eu gadael yn hirach). Wedyn, cânt eu trosglwyddo i jariau. Anfonir sampl o bob swp ar gyfer profion microbaidd i sicrhau eu bod yn ddiogel a bod y pH yn ddigon isel, ac wedyn caiff y jariau eu dosbarthu i fanwerthwyr (siopau annibynnol ledled de-orllewin Cymru).
Dywedodd Lauren, ‘Gallai eplesu bwydydd fod yn ffordd ragorol o ychwanegu gwerth at gynnyrch nad ydyw, am un rheswm neu’r llall, yn ei gwneud hi i’r farchnad gonfensiynol. Mae’r broses gynhyrchu yn syml iawn ac yn weddol rad i’w sefydlu. Mae cost ynghlwm â’r profion bacterol, felly mae’n gwneud synnwyr economaidd i brofi sypiau gweddol fawr; rydym yn gwneud sypiau o 100Kg bob pythefnos. Y prif rwystr i nifer o gynhyrchwyr yw diffyg hyder. Fodd bynnag, unwaith y dechreuasom, bu i ni sylweddoli mai cyn belled ag y glynwch wrth y rheolau syml ynglŷn â diogelwch bwyd, mae’n syml ac nid yw’n gofyn swm enfawr o fuddsoddiad.’

Sleisio bresych
Cymysgu halen a chynhwysion eraill

Tybiau eplesu (trap aer i’w ychwanegu)
Y cynnyrch gorffenedig
Jamiau, jelïau a siytnis
Mae jamiau a siytnis yn dibynnu’n bennaf ar weithred gyffeithiol siwgr. Mewn crynodiadau uchel, mae siwgr yn tynnu dŵr allan o gelloedd y micro-organebau drwy broses o’r enw osmosis. Heb ddigon o ddŵr, nid yw’r bacteria yn gallu tyfu neu luosi. Mae sawl cam:
• Caiff y ffrwythau/llysiau eu golchi a’u paratoi, yn dibynnu ar y cynnyrch: Gellir blendio a hidlo ffrwythau meddal; caiff afalau eu plicio, creiddio, sleisio a’u deisio; gellir socian ceirios ac yna tynnu eu carreg cyn eu gwasgu’n fân.
• Yna cânt eu pasteureiddio (gweler uchod)
• Ar gyfer jelïau, caiff y pwlp ei wthio drwy ogr i gael gwared ar yr hadau a’r croen
• Caiff symiau o ffrwyth a/neu sudd wedi’u mesur ymlaen llaw, siwgr a phectin eu blendio mewn tegelli coginio a’u berwi. Fel arfer, caiff y cymysgeddau eu coginio a’u hoeri sawl gwaith
• Ychwanegir unrhyw flasau ychwanegol
• Caiff y cymysgedd ei roi mewn jariau a’i oeri

Astudiaeth achos: Ffynnon Beuno
Mae Ffynnon Beuno, a redir gan Jane Marsh, yn cynhyrchu jamiau a chordialau o fafon, mefus, eirin ac eirin duon a llus a dyfir ar eu tyddyn ger Llanelwy. Yn ogystal, maent yn cynhyrchu ystod o siytnis fel modd o ymdrin â gormodedd. Gwerthir y cynhyrchion mewn caffi/siop de ar y fferm a thrwy allfeydd lleol.
Ar gyfer jamiau (gweler Certo ar gyfer ryseitiau manwl), caiff y ffrwyth sydd newydd ei gynaeafu ei olchi, ei bacio i fagiau 1 kg a’i rewi i gael ei brosesu yn ystod y gaeaf pan mae’n dawelach arnynt yn y cae. Mae’r broses gwneud jamiau yn syml. Rhoddir y ffrwyth mewn padell amyd gyda’r un faint o siwgr. Deuir â’r cymysgedd i ferwi’n gyflym am oddeutu 90 eiliad, ac wedyn ychwanegir pectin (sy’n lleihau’r amser berwi). Gadewir y jam i oeri ychydig ac yna fe’i rhoddir mewn jariau wedi’u diheintio. Yna, rhoddir y jariau i sefyll mewn baddon dŵr berw am 10 munud (fel yr amlinellir yn yr adran ‘canio’ uchod) a’u gadael i oeri dros nos.
Mae siytnis angen mwy o amser paratoi. Mae’n rhaid i’r holl gynhwysion crai (fel arfer afalau, nionod, betys a rwdins) gael eu plicio, golchi a’u torri’n giwbiau. Unwaith maent yn barod, cânt eu rhoi mewn padell gyda siwgr crai a finegr (mae’r cyfrannau yn bwysig ond yn amrywio yn ôl y swm o lysiau siwgr ac a yw syltanas yn cael eu hychwanegu at y cymysgedd). Cânt eu coginio, gyda phelen sbeisys ar gyfer blas, am oddeutu 90 munud, nes bod y cymysgedd wedi tewychu. Yna, cânt eu rhoi mewn jariau wedi’u diheintio a’u trosglwyddo i faddon dŵr berw, fel y disgrifir ar gyfer jamiau.
Dechreuodd Jane y busnes fis Tachwedd 2018 o gegin y tŷ fferm, ond yn fuan wedyn penderfynodd ei bod angen cyfleusterau cegin fasnachol. ‘Roedd yn fuddsoddiad sylweddol’ meddai. ‘Costiodd oddeutu £7,000 i ni i uwchraddio, ond llwyddasom i gadw’r costau i lawr drwy brynu offer ail law da. Mae effeithlonrwydd a lleihau gwastraff yn hynod bwysig i ni. Er enghraifft, rydym yn eplesu crwyn a chreiddiau’r afalau o’r broses o wneud siytni i greu’r finegr seidr yr ydym yn ei ddefnyddio yn ein siytnis ac yn gwerthu unrhyw beth dros ben. Mae ein holl wastraff organig yn cael ei gompostio, a’r maetholion yn mynd yn ôl i’r tir i gefnogi’r cnwd nesaf o ffrwythau a llysiau.’ Rhagor o wybodaeth

Pwyso

Cymysgu cynhwysion

Berwi cyflym
Jario

Diogelwch a hylendid bwyd
Mae cynhyrchu, prosesu, dosbarthu a manwerthu bwyd yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn cael ei reoli gan ddeddfwriaeth lem i sicrhau bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta. Caiff deddfwriaeth bwyd ei goruchwylio gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac fel arfer mae’n cael ei gweithredu gan awdurdodau lleol drwy Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd. Mae manylion eich tîm diogelwch bwyd lleol ar gael yma: Mae pob busnes bwyd yn destun arolygon rheolaidd. Yn seiliedig ar yr arolygon hynny, rhoddir ‘Sgôr Hylendid Bwyd’ i bob busnes, ac os ydych yn gwerthu i’r cyhoedd, mae’n ofynnol i chi arddangos eich sgôr ar eich safle.
Mae’n gwbl hanfodol eich bod yn deall eich cyfrifoldebau a’ch ymrwymiadau yn llwyr. Yng Nghymru, mae rhwydwaith o Ganolfannau sy’n ymroddedig i gefnogi busnesau bwyd Cymru, a fydd yn eich helpu a’ch cefnogi gyda phob agwedd ar brosesu bwyd, gan gynnwys cyrsiau diogelwch a hylendid bwyd (gweler cysylltiadau ac adnoddau am ragor o wybodaeth)
Yn gyffredinol mae cyfrifoldebau yn cynnwys:
• Sicrhau bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta
• Cadw cofnodion i ddangos olrheiniadwyedd
• Tynnu bwyd anniogel a chwblhau adroddiad digwyddiad
• Defnyddio ychwanegion cymeradwy yn unig ar yr uchafswm lefel a ganiateir neu’n is.
Cynlluniau Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP)
Mae’r HACCP yn rhan ganolog o gyflawni a chynnal hylendid bwyd a safonau diogelwch. Yn amlinellol, mae’n:
• Adnabod unrhyw beryglon y mae’n rhaid eu hosgoi, cael gwared arnynt neu eu lleihau
• Adnabod y pwyntiau rheoli critigol (CCP) – y pwyntiau lle mae angen i chi atal perygl, cael gwared arno neu ei leihau yn eich proses weithio
• Gosod cyfyngiadau i’r CCP a sicrhau y cânt eu monitro’n ddigonol
• Dangos sut fydd pethau yn cael eu cywiro os oes problem gyda CCP
• Sefydlu gwiriadau i sicrhau bod eich cynllun yn gweithio
• Cadw cofnodion
O ystyried pwysigrwydd llunio a gweithredu’r cynllun, rydym yn eich argymell yn fawr i geisio cyngor a hyfforddiant (gweler ‘Cefnogaeth a Rhagor o Wybodaeth’)
Safle
Rhaid i safleoedd sy’n cael eu defnyddio i baratoi bwyd fodloni’r safonau gofynnol:
• Cyfleusterau golchi dwylo
• O ran lloriau, waliau a nenfydau, rhaid iddynt feddu ar y nodweddion canlynol: cael eu cadw mewn cyflwr da; rhwydd i’w glanhau; wedi’u diheintio; esmwyth; cryf; golchadwy; yn rhydd rhag annedd, llwydni a phaent neu blastr rhydd
• Rhaid strwythuro ffenestri a drysau mewn modd sy’n atal baw rhag casglu
• Rhaid i arwynebau (gan gynnwys arwynebau offer) gael eu cadw mewn cyflwr da, yn rhwydd i’w glanhau a chael eu diheintio
• Rhaid darparu sinciau ar wahân, lle bynnag sy’n briodol, er mwyn golchi bwyd a glanhau offer mewn ardaloedd paratoi bwyd
• Rhaid i bob sinc gael cyflenwad digonol o ddŵr poeth ac oer ar gyfer golchi bwyd a chyflenwad sy’n ddigon da i’w yfed Rhaid cadw’r cyfleusterau hyn yn lân a’u diheintio
• Rhaid i bob eitem, gosodiad ac offer y mae bwyd yn eu cyffwrdd gael eu cadw mewn trefn, cyweiriad a chyflwr da; eu glanhau’n effeithiol a chael eu diheintio’n ddigon aml i osgoi unrhyw risg o halogiad
• Rhaid i chi gael cyfleusterau addas i storio a chael gwared ar fwyd. Rhaid i chi gael gwared ar wastraff bwyd, a gwastraff arall, o ystafelloedd sy’n cynnwys bwyd cyn gynted â phosibl i osgoi gwastraff yn cynyddu a denu plâu.
Cefnogaeth a rhagor o wybodaeth
Cefnogaeth a hyfforddiant
• Canolfan Bwyd Cymru, Horeb, Gorllewin Cymru: gen@foodcentrewales.org.uk
01559 362230, www.foodcentrewales.org.uk
• Canolfan Technoleg Bwyd, Coleg Menai, Gogledd Cymru: ftc@gllm.ac.uk; 01248 383345; www.foodtech-llangefni.co.uk
• ZERO2FIVE Canolfan Diwydiant Bwyd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd: ZERO2FIVE@cardiffmet.ac.uk; 02920 416306; www.zero2five.org.uk
• Prosiect Helix http://foodinnovation.wales/project-helix-1/
• Sgiliau Bwyd Cymru https://www.foodskills.cymru/
Prosesu gwerth ychwanegol
• Canning ISEKI-Food Association
http://sustainablefarming.co.uk/susfarming/wp-content/uploads/2020/05/Food-Canning.pdf
• Drying Fruit for Storing, Grow veg
https://www.growveg.co.uk/guides/drying-fruit-for-storing/
• Preservation of fruit and vegetables: Agrodok-series No. 3 (2003). Agromisa Foundation, Wageningen, https://cgspace.cgiar.org/bitstream/handle/10568/52981/1162_PDF-1.pdf?sequence=1
• Small-scale apple juice production The Organic Grower
http://sustainablefarming.co.uk/susfarming/wp-content/uploads/2020/04/OG41_juice_Frost.pdf

Deddfwriaeth diogelwch a hylendid bwyd
• Yr Asiantaeth Safonau Bwyd https://www.food.gov.uk/
• Swyddogion gorfodi’r Cyngor Lleol https://www.food.gov.uk/contact/consumers/find-details/contact-a-local-food-safety-team
• Cyfrifoldebau cyffredinol: https://www.gov.uk/food-safety-your-responsibilities
• Dewis y safle cywir
https://www.food.gov.uk/business-guidance/setting-up-a-food-business
• Egwyddorion HACCP https://www.gov.uk/food-safety-hazard-analysis